Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24
Ionawr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio’r Holocost 2023
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a’r Sylfaen Wybodaeth
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu Nifer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
(30 munud)
7 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 – Y Canlyniadau o ran y Gymraeg
(30 munud)
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
(30 munud)
9 Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
(15 munud)
NDM8186 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023
(15 munud)
NDM8185 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
11 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023